Ecoleg Forol

Mae gan y tîm Ecoleg Forol arbenigedd mewn ymchwilio i ddarpar ryngweithio a rhyngweithio presennol rhwng prosiectau ynni adnewyddadwy morol ac ecoleg forol, o gynefinoedd rhynglanwol i islanwol ac o'r prif ysglyfaethwyr i lawr i ffytoplancton. Mae deall y rhyngweithio gyda rhywogaethau a chynefinoedd morol yn allweddol er mwyn cydsynio i brosiectau adnewyddadwy morol, ond hefyd i ddatblygiad cynaliadwy tymor hir y sector yng Nghymru, a'r diwydiant ehangach.

Mae ymchwil cyfredol SEACAMS2 ym Mangor gyda'r sector adnewyddadwy morol yn cynnwys y canlynol:

  • Profi mapio manylder uchel a thechnegau monitro ar gyfer cynefinoedd rhynglanwol.
  • Ffactorau sy'n sbarduno tyfiant rîff llyngyr y diliau a morffoleg.
  • Biofaeddu ar strwythurau adnewyddadwy morol.
  • Gwella dulliau ar gyfer ymchwil cynefin benthig mewn ardaloedd datblygu cerrynt cryf.
  • Rhyngweithio posibl rhwng dyfeisiadau adnewyddadwy morol a morfilod, pysgod a ffawna eraill sy'n defnyddio samplu acwstig goddefol a gweithredol.
  • Defnydd mamaliaid y môr o safleoedd datblygu adnewyddadwy morol.
  • Dulliau newydd o dracio symudiad pysgod gan ddefnyddio cerbydau tanddwr awtonomaidd ar gyfer prosiectau Môr-lyn llanwol.

Mae'r dulliau a'r offer i gefnogi'r gwaith yma'n cynnwys y canlynol:

  • Aráe hydroffon llusg ar gyfer ymchwilio i famaliaid y môr
  • Sawl recordydd acwstig ar gyfer recordio presenoldeb ac ymddygiad mamaliaid y môr.
  • Sganiwr laser ar gyfer mesur a mapio cynefinoedd rhynglanwol.
  • System gamera gwbl fodern ar gyfer gwely'r môr.
  • Eco-seinydd meintiol ar gyfer canfod pysgod a ffawna eraill.
  • Treillio dŵr canol ar gyfer astudio ffawna pelagig.

Cofiwch gysylltu â ni os hoffech gael gwybod mwy am ein galluoedd neu i gydweithredu ar brosiectau ymchwil a datblygu.

laser scanning marine mammals