iMarDIS - System Wybodaeth a Data Morol Integredig

iMarDIS logo

iMarDIS yw elfen wybodaeth a rheoli data newydd rhaglen SEACAMS2 sy'n cael ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Bydd yn darparu pwynt mynediad unigol ar gyfer data, cynhyrchion a gwasanaethau sy'n deillio o'r ymchwil cydweithredol a gynhelir rhwng diwydiannau morol Cymru a Phrifysgol Bangor yng Nghanolfan Forol Cymru.

Un wers glir a ddysgwyd o SEACAMS 1 oedd bod diwydiannau morol yng Nghymru'n cael problemau gyda chael data a gwybodaeth berthnasol i gefnogi anghenion busnes. Roedd data'n anodd eu canfod a'u cael, ac nid oeddent bob amser yn cynnwys y metaddata cysylltiedig fel bod modd eu defnyddio a'u hailddefnyddio gyda hyder. Bydd iMarDIS yn rhoi sylw i'r broblem hon drwy ddarparu canolbwynt ar gyfer darganfod a lawrlwytho data gan ddarparu mynediad hwylus at ddata SEACAMS. Drwy weithio'n agos gyda mentrau data'r DU ac Ewrop, byddwn yn meithrin y gallu i gael mynediad hwylus at ddata eraill i greu siop-un-stop ar gyfer diwydiannau Cymru a defnyddwyr llywodraethol, gwyddonol a chymdeithasol ehangach.

Ochr yn ochr â gwasanaethau darganfod a lawrlwytho data, bydd iMarDIS yn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau ychwanegol mewn cydweithrediad â'r defnyddwyr yn y pen draw yn deillio o'n cyfresi data helaeth. Ymhlith yr enghreifftiau nodweddiadol mae modelau llanwol manylder uchel sydd wedi'u gwella gan fathymetreg fanylach gan SEACAMS; adnoddau delweddu model a bathymetreg; gwybodaeth reoli steil dangosfwrdd yn deillio o ddadansoddiad awtomatig o allbwn data a model. Bydd holl gynhyrchion a gwasanaethau iMarDIS yn cael eu sbarduno gan anghenion y defnyddwyr yn y pen draw.