Adnoddau Daearegol
Mae gwybodaeth am wely'r môr yn bwysig i osodiadau ynni cefnforol, yn ogystal ag i amrywiaeth o weithgareddau economaidd mewn moroedd sgafell (e.e. pysgodfeydd, llywio, gosod ceblau). Mae pwysigrwydd economaidd gwybodaeth o'r fath yn cael ei gydnabod ar y lefel uchaf ym mholisi gwyddor môr yr UE; fodd bynnag, mae data manylder uchel am wely'r môr, yn enwedig mewn perthynas â'i amrywioldeb tymhorol, yn gyfyngedig yn nyfroedd Cymru.
Yn SEACAMS mae gennym ni dîm o eigionegwyr daearegol sydd ag arbenigedd a gwybodaeth i asesu gwely'r môr ac amgylcheddau arfordirol. Mae ymdrech ymchwil SEACAMS wedi'i chyfeirio'n uniongyrchol tuag at ddatblygu gwybodaeth ar raddfa ranbarthol er mwyn datblygu dealltwriaeth wyddonol o sut mae'r sgafell gyfandirol fewnol yn gweithio ar amrywiaeth o amserlenni. Mae gan y grwp amrywiaeth o offer geoffisegol gan gynnwys sonar aml-belydrau ar yr RV Prince Madog a chychod bach, sonar sgan ochr, a phroffilwyr is-waelod manylder uchel. Mae'r prosiectau ymchwil diweddar a pharhaus sydd wedi'u cynnal gan y grŵp hwn yn cynnwys y canlynol:
- Datblygu strategaethau arsylwi cadarn ar gyfer nodweddion gwely'r môr ar raddfa ranbarthol
- Asesu nodweddion lleol gwely'r môr mewn cyd-destunau rhanbarthol a daearegol ehangach
- Ailadeiladu hanes gwely'r môr o forffoleg gwely'r môr (sonar) a geometreg is-waelod (proffilio is-waelod)
- Cysylltu data acwstig (sonar) a data optegol (fideo) ar gyfer nodweddion cynefinoedd biolegol
- Darparu data gwely'r môr fel sail i fodelu ecolegol ar wely'r môr
- Asesu methodolegau sonar sgan ochr ac aml-belydrau ar gyfer nodweddu gwely'r môr
- Defnyddio llongddrylliadau i fesur effeithiau strwythurau mawr ar wely'r môr o dan amrywiaeth eang o amodau hydrodynameg a dyfnder dŵr.
Cofiwch gysylltu â ni os hoffech gael gwybod mwy am ein galluoedd neu i gydweithredu ar brosiectau ymchwil a datblygu.