Eigioneg Ffisegol

Ceir cwestiynau ymchwil pwysig yn gysylltiedig â rhyngweithiad tonnau/cerrynt mewn dyfroedd arfordirol - o ran nodweddu'r adnodd hydrodynameg, ei amrywioldeb a'i eithafion, a'r cynnwrf sy'n cael ei greu. Mae i'r rhain oblygiadau nid yn unig i gynllunio a lleoli tyrbinau, ond hefyd o ran effeithiau amgylcheddol, ar raddfeydd tymhorol a gofodol amrywiol.

Mae gan ein tîm hydrodynameg a modelu arbenigedd mewn pynciau amrywiol ym maes ffiseg forol, gyda pherthnasedd uniongyrchol i'r diwydiant ynni adnewyddadwy morol. Rydym yn gweithio gyda systemau modelu hydrodynameg 2 a 3 dimensiwn cynhwysfawr ac mae gennym fynediad at gyfleusterau uwchgyfrifiaduro i gynnal senarios model drud a chymhleth. Hefyd mae gan dîm SEACAMS2 gyfleusterau ac arbenigedd i ddefnyddio a dadansoddi data o offerynnau eigionegol cwbl fodern, gan gynnwys Proffilwyr Cerrynt Doppler Acwstig (ADCPs) a bwi tonnau cyfarwyddiadol (Waverider MKIII). Mae'r prosiectau ymchwil diweddar a pharhaus sydd wedi'u cynnal gan y grŵp hwn yn cynnwys y canlynol:

  • Sensitifrwydd yr adnodd ffrwd lanwol i wahanol arferion llif
  • Paramedrau echdynnu ynni llanwol mewn modelau hydrodynameg
  • Ystyried addasrwydd gwahanol ddyfeisiadau echdynnu ynni i weithdrefnau llif amrywiol
  • Effaith anghymesuredd llanwol ar bŵer anghymesuredd
  • Y berthynas rhwng nodweddion bathymetrig a'r adnodd ynni llanwol sydd ar gael

Cofiwch gysylltu â ni os hoffech gael gwybod mwy am ein galluoedd neu i gydweithredu ar brosiectau ymchwil a datblygu.