SEACAMS 2

Mae prosiect SEACAMS2 yn cefnogi datblygu cyfleoedd economaidd mewn Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd drwy arbenigo mewn defnydd masnachol o ymchwil ac arloesi mewn ynni adnewyddadwy morol (YAM), ymwrthedd i newid yn yr hinsawdd ac effeithlonrwydd adnoddau yng Nghymru. Mae'r prosiect gwerth £17m, partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe, yn cael ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac mae'n canolbwyntio ar ranbarth cydgyfeiriant Cymru.

Mae'r diwydiant YAM wedi bod yn sydyn i adnabod adnodd ynni morol posibl arwyddocaol Cymru: ar hyd arfordir Cymru ceir rhanbarthau sydd ag amrediadau llanwol uchel (ar gyfer môr-lynnoedd llanwol), cerhyntau llanwol cyflym (ar gyfer ynni ffrwd lanwol), a dyfroedd sy'n agored i weithgarwch tonnau sylweddol (ar gyfer dyfeisiadau ynni tonnau).

Mae tîm amlddisgyblaethol o wyddonwyr morol ar brosiect SEACAMS2 yn gweithio gyda mentrau YAM yng Nghymru, gan gynnwys mentrau Ymchwil, Datblygu ac Arloesi cydweithredol. Fel rhan o hyn, mae data newydd yn cael eu casglu hefyd o system o arsyllfeydd arfordirol cynhwysfawr - mannau glanio benthig a llwyfannau wedi'u hangori - a ddefnyddir mewn ardaloedd arfordirol sydd wedi'u nodi fel safleoedd posibl ar gyfer datblygiadau YAM.

Ochr yn ochr â staff ymchwil penodol SEACAMS2 ac academyddion byd-enwog yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, mae gan y prosiect fynediad hefyd at lwyfannau ymchwil fel yr RV Prince Madog a fflyd o gychod bach. Ar gael i'w defnyddio yng Nghanolfan Forol Cymru mae cyfleusterau cynadledda, ystafelloedd cyfarfod, theatr ddarlithio, labordai ac acwaria. Mae iMarDis (Systemau Gwybodaeth a Data Morol Integredig) yn seilwaith data a gwybodaeth newydd sy'n cael ei sefydlu fel rhan greiddiol o SEACAMS2, er mwyn elwa'n llawn o allbynnau'r prosiect, integreiddio ei systemau data, a darparu cynhyrchion data defnyddiol ar gyfer defnyddwyr y diwydiant.