O Dan y Dŵr - Morluniau Cudd Cymru

Morglawdd Caergybi

Y morglawdd hiraf yn y DU.

(chwyddo i mewn i gael golwg agosach)

Mae'r tafluniad lliwiau ffug hwn o ddata sonar amlbelydr, lle mae lliwiau'n cynrychioli gwahanol ddyfnderoedd o dan wyneb y môr (glas yn cynrychioli'n rhannau dyfnaf a choch yn cynrychioli'r rhannau mwyaf bas) yn dangos beth yw dyfnder a chyfansoddiad ffisegol gwely'r môr o amgylch Morglawdd Caergybi yng ngogledd orllewin Ynys Môn.

Google Earth image of Holyhead harbour

Mae'r ddelwedd "I'r Gogledd" yn dangos sut mae strwythur y morglawdd, sy'n 1.7 milltir o hyd, yn ymestyn allan i'r amgylchedd morol ac yn amddiffyn porthladd economaidd bwysig Caergybi i'r de. Cymerodd morglawdd Caergybi 28 mlynedd i'w adeiladu a chafodd ei agor yn 1873 gan Albert Edward, Tywysog Cymru. Dyma'r morglawdd hiraf yn y Deyrnas Unedig. Caiff y morglawdd ei amddiffyn ar ochr y môr (yr ochr ogleddol) gan dwmpath mawr o rwbel a gafodd ei greu gyda mwy na saith miliwn o dunelli o gerrig a gloddiwyd yn lleol ac a gynlluniwyd i amsugno ynni'r tonnau sy'n cael eu creu gan dymhestloedd o'r gogledd a'r gogledd-orllewin. Mae nifer fawr o greigiau mawr iawn, 4 metr o ran maint, wedi eu lleoli ym mhen y morglawdd o dan y goleudy. Maent wedi eu cynllunio i amddiffyn y rhan hon o'r strwythur, sef y rhan sydd fwyaf agored i niwed, rhag gweithgarwch y tonnau a thonnau a gynhyrchir gan longau mawr sy'n mynd heibio.

Ar gyfartaledd mae'r dyfnder i'r gogledd o'r morglawdd 5m yn fwy na'r dyfnder i'r de ohono. Mae hyn yn rhannol oherwydd llethr naturiol gwely'r môr ond hefyd oherwydd bod morgloddiau a strwythurau eraill tebyg o wneuthuriad dyn yn cynyddu'n sylweddol gyfraddau dyddodiad gwaddod yn yr ardaloedd y cawsant eu cynllunio i'w hamddiffyn. Er mwyn sicrhau na fydd y gwaddodion hyn, maes o law, yn cronni i'r fath raddau nes atal llongau rhag hwylio yno, mae ardaloedd harbwr megis Caergybi yn cael eu carthu'n aml ac yna caiff y deunydd ei ollwng yn y môr (cyn dychwelyd yn y diwedd trwy brosesau naturiol y môr). Mae'r ddelwedd yn dangos yn glir lle mae gweithgareddau carthu o'r fath wedi digwydd yn rhan ddwyreiniol fewnol y morglawdd, yn ogystal â marciau ar wely'r môr lle mae cadwyni angor wedi llusgo yn y rhan orllewinol.

Breakwater looking South (golygfa yn edrych i'r De gyda'r harbwr a'r dref yn y pellter)

Mae'r ddelwedd hefyd yn dangos hyd a lled y creigwely y tu allan i'r morglawdd wrth y draethlin ar ochr dde-orllewinol y ddelwedd. Mae'r graig yn di?annu'n raddol o dan wyneb gwely'r môr tua'r gogledd-ddwyrain, o dan haen weddol denau o waddodion (>5m) sy'n cynnwys tywod bras a graean mân yn bennaf.

Breakwater looking East (golygfa agosach yn dangos manylion ar ddiwedd y strwythur)