O Dan y Dŵr - Morluniau Cudd Cymru
Tonnau Tywod Careg Hen
Riff tanddwr oddi ar Fae Trearddur, Ynys Môn
(zoom in for a closer look)
Mae'r tafluniad lliw rhithwir hwn o ddata sonar amlbelydr, lle mae
lliwiau'n cynrychioli gwahanol ddyfnderoedd o dan yr wyneb (glas yw'r
dyfnaf a choch yw'r basaf) yn darlunio dyfnder a chyfansoddiad
ffisegol dwy filltir sgwâr o wely'r môr sydd dair milltir i'r de-orllewin o Fae Trearddur ar
Ynys Môn, yn agos at frig creigiog adnabyddus, bas iawn, a adnabyddir yn lleol fel Carreg
Hen.
Mae'r darlun lletraws hwn yn edrych tuag at y de-ddwyrain yn darlunio gwely môr
amrywiol iawn yn cynnwys creigiau brig tuag at frig y darlun a gwaddodion tywodlyd
symudol yn goruchafu'r mannau dyfnach wedi eu lleoli ymhellach o'r lan. Gellir gweld
darnau llai o waddod symudol hefyd rhwng y ffurfiannau craig a ddaw i'r golwg lle maent
yn tarfu ar lif llanw'r de-ddwyrain gogledd-orllewin sy'n unionlin gan fwyaf. Mae'r tonnau
tywod mwyaf tuag at ran isaf y darlun ar y dde wedi eu gosod yn unionsyth â llif y llanw
(mewn cyfeiriad de-orllewin gogledd-ddwyrain) ac maent yn anghymesur (gyda wyneb y
de-orllewin yn fwy serth na'r de-ddwyrain) ond nid yw hyn yn rhywbeth a ddisgwylir fel
rheol o ystyried cerrynt gorlanw cryfach y gogledd-orllewin. Fodd bynnag, mae'r tonnau
tywod llai yn agosach at y graig y gwelir ei brig, yn dangos ffurf gonfensiynol. Mae hyn yn
awgrymu bod patrwm mwy cymhleth o gylchrediad dwr yn y lleoliad hwn, o bosibl
oherwydd presenoldeb y penrhyn yn Ynys Lawd a'i ddylanwad mwy ar lif llanw a thrai
cyffredinol. Mae arolygon aml-belydrau (multibeam) a ailadroddwyd rhwng 2014 a 2018
yn ymddangos fel pe baent yn cadarnhau bod y gwaddodion yn symud mewn symudiad
cylchol o amgylch Carreg Hen. Mae ymchwil wrthi'n cael ei gwneud i ddeall yn well
batrymau cludo gwaddodion yn y lleoliad hwn, ac yn ardal arfordirol ehangach gorllewin
Ynys Môn.
Mae gwely'r môr yn y safle hwn hefyd yn cynnwys cyfres o bantiau bron yn gylchol (hyd at
5m) ar wely'r môr gyferbyn â'r creigiau brig. Mae'n debyg y gellir priodoli'r rhain i darfiad
yn llif y dwr yn y safle hwn, ac felly cynnydd mewn aflonyddwch ger gwely'r môr. Mae'r
cyfryw nodweddion yn rhoi golwg ddefnyddiol ar
effeithiau erydol ar waddodion gwely'r môr yn y
lleoliadau hyn, a pha mor bell yn union mae'r maes
aflonyddwch yn ymestyn o amgylch pob craig.
(golygfa arall, gyda'r dyfnder wedi'i broffilio)
(tonnau tywod ar wely'r môr)