O Dan y Dŵr - Morluniau Cudd Cymru

SS Cartagena

wedi ei colli yn 1928

(chwyddo i mewn i gael golwg agosach)

Mae'r tafluniad lliwiau ffug hwn o ddata sonar amlbelydr, lle mae'r lliwiau'n cynrychioli gwahanol ddyfnderoedd o dan yr wyneb (gyda glas yn cynrychioli'r rhannau dyfnaf a brown yn cynrychioli'r rhannau mwyaf bas) yn darlunio dyfnder a chyfansoddiad ffisegol milltir sgwâr o wely'r môr sydd oddeutu 10 milltir i'r gogledd-orllewin o Ben y Gogarth. Yma y gorwedd llong-ddrylliad y 'Cartagena', llong bysgota 40m o hyd a suddodd ym 1928. Fe welwch y llong yng nghanol y llun yn gorwedd bron yn unionsyth a'r pen blaen yn wynebu'r gogledd-orllewin.

Map Gogledd Cymru gyda'r safle wedi'i amlygu

Mae'r ddelwedd "i'r gogledd" yn dangos natur bantiog gwely'r môr ac amrywiaeth y gwaddodion a geir yn y rhan hon o Fae Lerpwl lle mae dyfnder y môr rhwng 30m a 40m. Mae'r banciau tywod anghymesur mawr 10m o drwch a welwch yn y llun yn gorwedd ar ben dyddodion rhewlifol mwy hynafol ac maent yn berpendicwlar i'r cerrynt llanw cymedrol ei rym (1.5m/s) sy'n llifo o'r de orllewin i'r de ddwyrain ac sy'n cyrraedd anterth o saith metr (mae'r llongddrylliad yn cyrraedd anterth o bum metr uwchlaw gwely'r môr o'i amgylch). Ar ben y nodweddion enfawr yma mae patrymau cymhleth o donnau tywod anghymesur (>1 m) sydd hefyd â gogwydd perpendicwlar i'r cerrynt llanw ac maent yn mudo ychydig fetrau i'r gogledd ddwyrain bob blwyddyn. Mae mannau dyfnaf y safle'n cynnwys haenau tenau o waddodion modern (> 1 m) ar ben gwaddodion brasach.

Mae mwy o wybodaeth am y Cartagena ar gael ar WreckSite.
A gallwch ddarllen y adroddiad ymchwiliad ffurfiol yn manylu ar y golled yma.

Ffotograff archif o'r Cartagena

Cartagena view 2 (Golygfa agosach)

Cartagena view 2 (Golygfa tuag at y flaen)