O Dan y Dŵr - Morluniau Cudd Cymru
SS Derbent
wedi ei tharo gan un torpido yn 1917
(chwyddo i mewn i gael golwg agosach)
Mae'r tafluniad lliwiau ffug hwn o ddata sonar amlbelydr (lle mae
lliwiau'n cynrychioli gwahanol ddyfnderoedd o dan yr wyneb) yn
cwmpasu ardal o wely'r môr sy'n ymestyn 500m x 250m, tua 15 milltir
i'r gogledd-orllewin o Ben y Gogarth.
Mae'r ddelwedd "i'r gogledd" hon yn cynnwys llongddrylliad yr SS
Derbent, sef tancer 3178 tunnell a 95m o hyd a adeiladwyd yn Newcastle-upon-Tyne ac a
lansiwyd yn 1907. Morlys Prydain oedd perchennog y llong hon oedd yn cario bron i 4000
tunnell o olew tanwydd o Lerpwl i Queenstown, Cork ac ar noson 30 Tachwedd 1917,
cafodd ei tharo gan un torpido a daniwyd gan yr U-96, un o longau tanfor yr Almaen.
Gadawodd pawb y llong yn ddiogel ond bu'r llong yn arnofio heb bwer am ddau ddiwrnod
cyn suddo yn y lleoliad hwn.
Mae'r llongddrylliad hwn yn enwog iawn gyda'r llong yn gorwedd bron yn gyfan ar
ddyfnder o 35-40m ar ei hochr starbord gyda'i phen blaen yn wynebu tua'r gogleddorllewin.
Mae gwely'r môr o'i chwmpas yn cynnwys tonnau tywod anghymesur ar raddfa
fach (llai na 0.5m mewn uchder) o dywod cregynnog bras a graean mân iawn. Mae'r
siapiau gwaddodol hyn yn gorwedd yn berpendicwlar i lif y llanw ac yn symud yn araf tua'r
de-ddwyrain ychydig o fetrau'r flwyddyn. Mae tonnau tywod yn debyg i grychau tywod (a
welir yn aml ar draethau) ond maent yn fwy oherwydd cerrynt cyflym y llanw. Maent yn
anghymesur (mae'r ochr dde-ddwyreiniol yn fwy serth na'r ochr ogledd-orllewinol)
oherwydd bod cerrynt y llanw yn gyflymach ar y gorlanw (yn symud tua'r de-ddwyrain
yma) na'r trai (sy'n symud tuag at y gogledd-orllewin) a chaiff mwy o waddod ei symud
tua'r de-ddwyrain.
Roedd yr U-96 dan reolaeth Kapitänleutnant Heinrich Jess a ddau ddiwrnod ynghynt,
roedd hefyd wedi suddo'r SS Apapa ger Bae Cemaes ar Ynys Môn pan fu farw llawer o
bobl. Yr SS Derbent oedd yr olaf i ddioddef wrth law y llong danfor hon. Roedd yr U-96 yn
gyfrifol am suddo 31 o longau rhwng Mehefin 1917 ac Awst 1918 (cyfanswm o 95,000 o
dunelli) ac er nad yr un llong oedd hi, U-96 oedd yr enw hefyd ar y llong danfor a
ymddangosodd yn y llyfr a'r ffilm 'Das Boot' gan Lothar-Günther Buchheim.
Caiff safle'r llongddrylliad hwn ei archwilio'n rheolaidd
gan ddeifwyr ac mae lluniau a fideos o'r safle yn dangos
yn glir bod strwythur y llong ei hun bellach yn hafan i
fywyd y môr, ac mae wedi ei gorchuddio bron yn gyfan
gwbl â sbyngau ac anemoneau.
(Golygfa agosach)
(Golygfa tuag at y flaen)