O Dan y Dŵr - Morluniau Cudd Cymru
Phenrhyn Safnas
Afon Menai ger Biwmaris
(chwyddo i mewn i gael golwg agosach)
Mae'r tafluniad lliwiau ffug hwn o ddata sonar amlbelydr, lle mae
lliwiau'n cynrychioli gwahanol ddyfnderoedd o dan yr wyneb (glas yn
cynrychioli'n rhannau dyfnaf a choch yn cynrychioli'r rhannau mwyaf
bas) yn dangos beth yw dyfnder a chyfansoddiad ffisegol Afon Menai
rhwng Pier Bangor a Biwmares dros bellter o dair milltir.
Mae'r ddelwedd "I'r Gogledd" yn dangos i ba raddau y mae dyfnder prif sianel yr Afon
Menai yn amrywio ar ei hyd, gyda darnau helaeth yn aml â dyfnder o lai na 5 metr ar lanw
isel. Prif nodwedd y ddelwedd yw pant cylchog, mawr, gyda diamedr o 200m, ar wely'r
môr gyferbyn â Phenrhyn Safnas, lle mae'r Afon Menai yn mynd 20 metr yn ddyfnach yn
sydyn iawn.
Mae'n aneglur beth achosodd y pant hwn yng ngwely'r môr ond mae'n
debygol iddo gael ei achosi gan amgylchiadau presennol ynghyd â dylanwad y pentir a geir
yma sy'n amharu ar lif llanw sydd bron yn llinol yn y rhan hon o'r Afon Menai. Y rheswm
dros ei ddyfnder yw croniad arwyddocaol (<20m) o waddodion cynhanesyddol mân a
meddal, sy'n cynnwys cleiau morydol yn gymysg â dyddodion mawn hynafol, sydd wedi eu
dyddio rhwng 12,000 a 6,000 o flynyddoedd oed, a erydwyd wrth i'r Fenai esblygu i'w
chyflwr presennol. Mae creiddiau gwaddod a gafwyd trwy ddrilio i wely'r môr gerllaw'r
nodwedd hon wedi rhoi tystiolaeth werthfawr i wyddonwyr o Brifysgol Bangor ynglyn â
sut mae lefelau'r môr yn y rhan hon o ogledd Cymru wedi newid ers diwedd yr oes iâ
ddiwethaf ac wedi rhoi gwybodaeth ynglyn â sut a phryd yr esblygodd yr Afon Menai o fod
yn ddau ddyffryn afonol hyd tua 14,000 o flynyddoedd yn ôl, i fod yn amfaeau llanw sy'n
wynebu ei gilydd rhwng 14,000 a 7,000 o flynyddoedd yn ôl, i fod yn gulfor llanw rhwng
7,000-5,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae ardaloedd rhynglanwol mwy bas i'r de yn heriol i'w mesur yn defnyddio sonar
amlbelydr o long oherwydd bod y dwr yn fas, a dyna pam fod diffyg data o'r lleoliad hwn,
fodd bynnag, mae'r ardaloedd o gwmpas y pier ac yn aber afon Ogwen yn cael eu mesur yn
rheolaidd fel rhan o ymchwil wyddonol barhaus ac fel rhan o raglen addysg I
israddedigion.
Tywod cregynnog canolig a bras sy'n nodweddu gwely'r
môr dros lawer o'r ardal hon ac mae'r gwead brasach
sy'n weladwy ar yr wyneb i'r dwyrain a'r gorllewin o
Benrhyn Safnas yn adlewyrchu'n bennaf bod yr ardal
hon yn cael ei defnyddio fel pysgodfa cregyn gleision
fasnachol.
(Golygfa o'r gorllewin)
(Golygfa o'r dwyrain)