O Dan y Dŵr - Morluniau Cudd Cymru
Bae Lerpwl
ardal craterau annaturiol
(chwyddo i mewn i gael golwg agosach)
Mae'r tafluniad lliwiau ffug hwn o ddata sonar amlbelydr, lle mae lliwiau'n cynrychioli
gwahanol ddyfnderoedd o dan wyneb y môr (glas yn cynrychioli'n rhannau dyfnaf a choch
yn cynrychioli'r rhannau mwyaf bas), yn dangos beth yw dyfnder a chyfansoddiad ffisegol
oddeutu tair milltir sgwâr o wely'r môr a leolir ugain milltir i'r gogledd-orllewin o
Landudno, i'r gogledd o aberoedd Dyfrdwy a Merswy ym Mae Lerpwl lle mae dyfnder y
dwr ar gyfartaledd yn amrywio rhwng 25m a 30m.
Mae'r ddelwedd "I'r Gogledd" hon yn dangos natur amrywiol gwely'r môr lle ceir tonnau
tywod anghymesur mawr sydd hyd at 3m yn uwch na'r gwely'r môr. Maent yn gorwedd yn
berpendicwlar i brif lif y llanw sef gogledd-orllewin de-ddwyrain. Maent yn anghymesur
(yma mae'r ochr ddwyreiniol yn fwy serth na'r ochr orllewinol) wrth i fwy o waddod gael ei
symud i'r dwyrain na'r gorllewin oherwydd bod y cerhyntau llanw (sy'n symud tua'r deddwyrain)
yn gryfach na cherrynt y trai (sy'n symud tuag at y gogledd-orllewin. Oherwydd
cerhyntau'r llanw a natur y gwaddod symudol mae rhai o'r tonnau tywod hyn â phatrymau
gwaddod tebyg ond ar raddfa lai (10cm-20cm) wedi ffurfio ar yr wyneb.
Mae cannoedd o nodweddion bach cylchog, megis craterau, yn nodweddu rhannau
deheuol a de-orllewinol y safle hwn. Maent rhwng 20m a 50m mewn diamedr ac yn
amrywio rhwng 1m a 2m o ran uchder. Mae'r nodweddion hyn yn cynrychioli dyddodion
gwaddod ar wahân sydd wedi'u carthu o aberoedd lleol megis Merswy a Dyfrdwy er mwyn
cadw'r sianeli'n agored i longau. Dros amser mae'r dyddodiadau hyn yn cael eu hailweithio
yn dilyn prif drefn y cerhyntau ac mae llawer o'r deunydd sy'n cael ei ollwng yn cael
ei ail-gludo yn ôl i'r aberoedd neu ar hyd yr arfordiroedd cyfagos.
(ardal craterau)
(golygfa agosach)