O Dan y Dŵr - Morluniau Cudd Cymru

SS Maarten Cornelis

Llong bysgota a suddodd ym 1971 ger Ynys Lawd

(chwyddo i mewn i gael golwg agosach)

Mae'r tafluniad lliwiau ffug hwn o ddata sonar amlbelydr (a'r lliwiau'n cynrychioli gwahanol ddyfnderoedd o dan yr wyneb) yn cwmpasu ardal o wely'r môr sy'n ymestyn 800m x 400m, tua 10 milltir i'r gogleddorllewin o Ynys Lawd, Môn.

Map Gogledd Cymru gyda'r safle wedi'i amlygu

Mae'r ddelwedd "i'r gogledd" hon yn cynnwys llongddrylliad y Maarten Cornelis, llong bysgota ddur, 31m o hyd, oedd yn pwyso 119 o dunelli. Cafodd ei hadeiladu yn yr Iseldiroedd ym 1968 ac aeth i drafferthion ar 19 Mawrth 1971 ar ôl mynd ar y creigiau ger goleudy Ynys Lawd.

Mae'r llongddrylliad yn gymharol gyfan, ac ma e'n gorwedd bron yn unionsyth mewn dyfnder o oddeutu 45m a phen blaen y llong yn wynebu'r dwyrain. Mae'r data sonar amlbelydr yn dangos bod yr ardal o amgylch y llongddrylliad oddeutu 5-6m yn ddyfnach na'r ardal ehangach a'i bod ar ei dyfnaf yn yr ardaloedd lle ceir sgwrfa ger ochr chwith y llongddrylliad sy'n wynebu'r gogledd. Dengys samplau gwaddodion a fideo dwr a gymerwyd o'r safle fod gwely'r môr yn y cyffiniau'n gymharol wastad a'i fod yn cynnwys deunyddiau bras trwchus cywasgedig megis tywod, graean a choblau, sy'n weddillion addasedig o ddyddodion rhewlifol ac ôl-rewlifol. Mae llif y llanw'n gymharol gryf, ac mae arolygon hefyd yn dangos, oherwydd hynny, yn gyffredinol rhwng y gogledd a'r de, fod cryn dipyn o waddodion ynghrog yn y dwr (tywod yn bennaf) a'u bod yn symud yn ôl ac ymlaen yn barhaus hyd y safle.

Proffil dyfnder llongddrylliad y Maarten Cornelis

Oherwydd bod y llongddrylliad wedi ei gyfeirio'n berpendicwlar i gyfeiriad cerrynt y llanw, bu cryn ysgwrfa arno. Mae'n anodd penderfynu a yw hynny i'w briodoli i'r llongddrylliad ei hun ond mae'r ysgwrfa ddyfnaf i'w gweld i'r gogledd o'r llongddrylliad ac mae'n debyg y gellir priodoli hynny i'r ffaith bod llif y llanw sy'n llifo i gyfeiriad y gogledd ychydig yn gryfach na'r trai sy'n llifo i'r de.

Maarten Cornelis view 2 (Golygfa agosach)

Maarten Cornelis view 3 (Golygfa i'r ochr)