O Dan y Dŵr - Morluniau Cudd Cymru

Pwll Ceris (Y Swellies)

Y môr rhwng dwy Bont Menai sydd yn nodedig am geryntau cryf a bradwrus.

(chwyddo i mewn i gael golwg agosach)

Mae'r tafluniad lliwiau ffug hwn o ddata sonar amlbelydr, lle mae'r lliwiau'n cynrychioli'r gwahanol ddyfnderoedd o dan yr wyneb (gyda glas yn cynrychioli'r rhannau dyfnaf a choch yn cynrychioli'r rhannau mwyaf bas), yn dangos dyfnder a chyfansoddiad ffisegol y Fenai rhwng Plas Newydd a Chadnant hyd at bwynt yn union i'r dwyrain o Bont Menai dros bellter o ryw dair milltir.
Our data superimposed over a chart of the area

Mae'r ddelwedd "i'r gogledd" yn dangos sut mae prif sianel y Fenai'n culhau'n ddirfawr rhwng Pont Britannia a Phont Menai ac fe nodweddir yr ardal hon gan gerrig brig ac ynysoedd bach megis (chwith-dde); Craig Britannia, Craig Cribin, Ynys Gored Goch a Chraig Pwll Ceris. Mae'r ardal hon yn eithriadol o fas (>5 m) ar lanw isel ac oherwydd dylanwad y cerrig brig sydd yma, mae'r llifoedd cryf sydd yn dod gyda llanw a thrai (>2m/s) yn peri tyrfedd mawr sy'n ei amlygu ei hun ar ffurf geirwyau môr a throlifau neu chwyrlbyllau. Oherwydd y llifoedd cryf ac a?onydd yma creigiau moel yw gwely'r môr ym Mhwll Ceris gan mwyaf ac mae'r dr sy'n llifo drwyddo'n cario cryn dipyn o waddodion crog.

I'r dwyrain ac i'r gorllewin o Bwll Ceris mae'r Fenai'n lledu ac yma fe'i nodweddir gan sgwrfa a chroniadau o waddodion bras megis tywod a graean. Mae'r twll dwfn 15m sydd i'r gorllewin o Bont Britannia ger Pwllfanogl wedi'i ffurfio o'r creigwely ac mae'n debyg ei fod yn nodwedd hynafol sy'n deillio o lifoedd dr tawdd ac yn sgil nifer o rewlifau olynol (>50) yn ystod y 2 filiwn o flynyddoedd diwethaf.
Afon Menai o'r awyr

Swellies looking East (golygfa agos yn edrych i'r Dwyrain)

Mae Afon Menai yn bodoli am ei bod yn sefyll ar ffawtlin ddaearegol hynafol y bu'r rhew a'r dr a'r gwynt yn ei herydu'n ffafriol ers miliynau o flynyddoedd sydd wedi peri bod ei harwynebedd yn is o'i gymharu â'r tir cyfagos i'r gogledd ac i'r de. Ar ôl yr oes iâ ddiwethaf (>20,000 o flynyddoedd yn ôl) roedd lefel y môr dros y byd i gyd 130m yn is nag y mae heddiw ac roedd rhewlif dros ardal Afon Menai. Dechreuodd y rhewlif mawr doddi a chilio tua'r gogledd fel y gwnaeth rhewlif gogledd Cymru ac wrth i'r rhew doddi fe gododd lefel y môr a daeth y môr dros dir sych Afon Menai ac yn raddol fe lifodd y dr i mewn o'r ddau ben ac yn y pen draw, oddeutu 7800-4800 o flynyddoedd yn ôl, roedd y dr yn llifo'n barhaol ac fe ddaeth Ynys Môn yn ynys.

Swellies looking East (golygfa gyffredinol yn edrych i'r Dwyrain)