O Dan y Dŵr - Morluniau Cudd Cymru

SS Apapa

Llongddrylliad yr SS Apapa, llong teithwyr / cargo 7832 tunnell, 135m o hyd a adeiladwyd ym 1914, yn eiddo i'r Elder Dempster Lines.

(zoom in for a closer look)

Tafluniad lliwiau ffug o ddata sonar amlbelydr (lle mae lliwiau'n cynrychioli gwahanol ddyfnderoedd o dan yr wyneb), yn cwmpasu ardal tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Fae Cemaes ar Ynys Môn.
mae lliwiau'n cynrychioli dyfnderoedd gwahanol

Roedd yr Apapa yn cario teithwyr a chargo o Lagos, Nigeria i Lerpwl pan gafodd ei tharo ar 28 Tachwedd 1917 gan ddau dorpido a daniwyd o'r U-96 gan ladd saith deg saith o bobl.

Roedd yr U-96 dan reolaeth Kapitänleutnant Heinrich Jess a dau ddiwrnod ar ôl y digwyddiad hwn aeth ymlaen i danio torpidos at yr SS Derbent wrth ymyl Trwyn Eilian. Roedd yr U-96 yn gyfrifol am suddo 31 o longau rhwng Mehe?n 1917 ac Awst 1918 (cyfanswm o 95,000 o dunelli) ac er nad yr un llong oedd hi, U-96 oedd yr enw hefyd ar y llong danfor a ymddangosodd yn y llyfr a'r f?lm 'Das Boot' gan LotharGünther Buchheim. Mae safle'r llongddrylliad hwn yn anodd i ddeifwyr fynd iddo oherwydd ei ddyfnder, gwelededd gwael a cherrynt cymharol gryf.
map o Ogledd Cymru yn dangos lleoliad y llongddrylliad oddi ar arfordir Ynys Môn

Ffotograff archif o'r SS Apapa

SS Apapa (agos i fyny, 'gorllewin i fyny' o safle'r llongddrylliad) )

Mae'r llongddrylliad ar ddyfnder o 45m ac mae'r llong yn gorwedd ar ei hochr starbord gyda'i phen blaen yn wynebu i'r de dde-ddwyrain. Mae gwely'r môr o amgylch wedi ei orchuddio â thywod cregynnog bras sydd wedi'i ger?unio'n donnau tywod bach anghymesur (llai na 0.5m mewn uchder) yn gorwedd yn berpendicwlar i gerrynt y llanw o'r dwyrain i'r gorllewin sy'n symud tua'r dwyrain ychydig o fetrau'r flwyddyn. Mae tonnau tywod yn debyg i grychau tywod (a welir yn aml ar draethau) ond ar raddfa lawer mwy oherwydd cerrynt cyflym y llanw. Maent yn anghymesur (yma mae'r ochr ddwyreiniol yn fwy serth na'r ochr orllewinol) oherwydd bod cerrynt y llanw (sy'n symud tuag at y dwyrain) yn gryfach na cherrynt y trai (sy'n symud tuag at y gorllewin). Mae gwely'r môr sy'n agos at y llongddrylliad wedi'i newid gan y llongddrylliad ei hun gan ei fod yn amharu ar y gorlanw naturiol ac yn gwneud i'r cerrynt gy?ymu a chreu mwy o gynnwrf sy'n golygu bod rhagor o sgwrfeydd a gwaddodion yn cael eu cario. O ganlyniad mae'r tonnau tywod hyd at uchder o 2m i'r gorllewin o'r llongddrylliad gyda phyllau sgwrfa bob ochr i'r llongddrylliad. Mae'r effeithiau hyn i'w gweld yn fwy amlwg ar ochr orllewinol y llongddrylliad efallai oherwydd bod wyneb a chyfeiriad y llongddrylliad yn amharu fwy ar gerrynt y trai na cherrynt y gorlanw

SS Apapa (agos i fyny, 'de-ddwyrain i fyny' o safle'r llongddrylliad)