O Dan y Dŵr - Morluniau Cudd Cymru
Safle o amgylch llongddrylliad yr SS Cartagena
dyfnder dŵr rhwng 30m-40m
(chwyddo i mewn i gael golwg agosach)
Mae'r tafluniad lliwiau ffug hwn o ddata sonar amlbelydr, lle mae'r lliwiau'n cynrychioli
gwahanol ddyfnderoedd o dan yr wyneb (gyda glas yn cynrychioli'r rhannau dyfnaf a brown
yn cynrychioli'r rhannau mwyaf bas) yn darlunio dyfnder a chyfansoddiad ffisegol milltir
sgwâr o wely'r môr sydd oddeutu 10 milltir i'r gogledd-orllewin o Ben y Gogarth. Yma y
gorwedd llong-ddrylliad y 'Cartagena', llong bysgota 40m o hyd a suddodd ym 1928. Fe
welwch y llong yng nghanol y llun yn gorwedd bron yn unionsyth a'r pen blaen yn wynebu'r
gogledd-orllewin.
Mae'r ddelwedd "i'r gogledd" yn dangos natur bantiog gwely'r môr ac amrywiaeth y
gwaddodion a geir yn y rhan hon o Fae Lerpwl lle mae dyfnder y môr rhwng 30m a 40m.
Mae'r banciau tywod anghymesur mawr 10m o drwch a welwch yn y llun yn gorwedd ar
ben dyddodion rhewlifol mwy hynafol ac maent yn berpendicwlar i'r cerrynt llanw
cymedrol ei rym (1.5m/s) sy'n llifo o'r de orllewin i'r de ddwyrain ac sy'n cyrraedd anterth o
saith metr (mae'r llongddrylliad yn cyrraedd anterth o bum metr uwchlaw gwely'r môr o'i
amgylch).
Ar ben y nodweddion enfawr yma mae patrymau cymhleth o donnau tywod
anghymesur (>1 m) sydd hefyd â gogwydd perpendicwlar i'r cerrynt llanw ac maent yn
mudo ychydig fetrau i'r gogledd ddwyrain bob blwyddyn. Mae mannau dyfnaf y safle'n
cynnwys haenau tenau o waddodion modern (> 1 m) ar ben gwaddodion brasach a
dwysach (graean a choblau) sef gweddillion addasedig dyddodion rhewlifol.
Gellir gweld ein delweddau o longddrylliad yr SS Cartagena ei hun yma.
Mae mwy o wybodaeth am y Cartagena ar gael ar
WreckSite.
A gallwch ddarllen y adroddiad ymchwiliad ffurfiol yn manylu ar y golled yma.
(Golygfa agosach)
(Golygfa drawiadol)